Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 18 Ionawr 2021
Amser:
14.00 -
15.38
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/11092
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
David Rees AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS David J Rowlands AS |
Tystion: |
Marley Morris, Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus Jonathan Portes, Kings College London Madeleine Sumption, Yr Arsyllfa Fudo (Prifysgol Rhydychen) Claire Thomas, Swyddog polisi ac ymchwil, Sefydliad Bevan |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) Rhun Davies (Ymchwilydd) Lucy Valsamidis (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod.
1.2 Nid oedd Laura Jones yn bresennol.
1.3 Dywedodd Huw Irranca-Davies fod ganddo fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglen Cymru, a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
2 Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit: sesiwn dystiolaeth gydag academyddion
2.1 Ymatebodd y panel i gwestiynau gan yr Aelodau.
3 Papur i'w nodi
3.1 Papur i’w nodi 1: Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd at y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ynghylch memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach - 11 Ionawr 2021
3.1 Nodwyd y papur.
4 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
4.1 Derbyniwyd y cynnig.
5 Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit - trafod y dystiolaeth
5.1 Trafododd yr aelodau’r dystiolaeth a gafwyd.
6 Fframwaith Cyffredin Dros Dro ar gyfer Labelu Cysylltiedig â Maeth, Cyfansoddiad a Safonau - trafod gohebiaeth ddrafft
6.1 Trafododd yr aelodau’r ohebiaeth ddrafft, a chytunwyd arni’n amodol ar rai newidiadau.
7 Cytundebau rhyngwladol
7.1 Trafododd yr aelodau adroddiad Dr Maria Garcia ar y Cytundeb Parhad Masnach rhwng y DU a Chanada.